Amdanom Ni Triniaethau Ffioedd Cwestiynau Cysylltu Blog

Croeso i

Ddeintyddfa Rhuthun

Dilynwch a Hoffwch ni ar Twitter a Facebook!

Croeso i

Deintyddfa Rhuthun


01824 703201      info@ruthindental.com

About Us

Amdanom Ni

Mae Deintyddfa Rhuthun yn bractis annibynnol sy’n darparu gofal deintyddol breifat ac i’r GIG.


Sefydlwyd y practis yn Rhuthun dros hanner can mlynedd yn ôl a rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi gofalu am genhedlaethau o’r un teuluoedd.


Mae gennym dîm medrus iawn o ddeintyddion yn y practis sy'n cyd-weithio gyda therapyddion a’n hylenyddion i ddarparu eich gofal deintyddol. Ein nôd yw rhoi y cyngor gorau posib er mwyn helpu cynnal eich iechyd deintyddol.


Mae perchnogion y practis, Robert Winstanley a Tom Gregg yn datblygu'r practis yn barhaus i allu cynnig triniaeth ddeintyddol rhagorol i gleifion mewn amgylchedd fodern.


Cyn belled ag y bo modd, byddwch yn gweld yr un deintydd bob tro i ddarparu gofal cyson, ond os oes angen triniaeth mwy arbenigol, mae gennym ddeintyddion â ddiddordebau amrywiol arbeningol a sgiliau ychwanegol a fydd yn gallu eich helpu.


Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Robert A Winstanley BDS (Caeredin) CDC Deintydd: 67808


Daw Robert yn wreiddiol o Bolton, Swydd Gaerhirfryn lle roedd ei dad hefyd yn ddeintydd. Ar ôl graddio o Brifysgol Caeredin yn 1992, fe weithiodd yn Adran Llawfeddygaeth y Geg yng Nhaeredin, ac yna aeth ymlaen i weithio fel Uwch Swyddog yn Inffyrmari Brenhinol Manceinion lle cychwynodd ei dddiddordeb mewn mewnblaniadau deintyddol.


Mae Robert wedi bod yn Neintyddfa Rhuthun ers 1998 ac wedi cyfuno swydd glinigol yn yr Adran Orthodontig yn Ysbyty Maelor Wrecsam am gyfnod o wyth mlynedd yn ystod yr amser hyn. Mae o bellach yn darparu triniaeth orthodontig ar gyfer cleifion yn Rhuthun a’r ardaloedd cyfagos. Mae o wedi bod yn Hyfforddwr Galwedigaethol, sy'n golygu mentora deintyddion sydd newydd gymhwyso yn ystod eu blwyddyn gyntaf ar ôl graddio.


Mae Robert wedi cwblhau nifer o gyrsiau ôl-raddedig. Yn 2003 fe ymgymerodd â chwrs blwyddyn Mewnblannu Deintyddol o dan Athro C. Ucer. Mae hyn wedi ei alluogi i osod ac adfer Mewnblaniadau Deintyddol ar gyfer cleifion yn y practis yn Rhuthun ac hefyd ar gyfer cleifion a gyfeiriwyd o bractisau deintyddol eraill.


Yn 2011 cwblhaodd Rhaglen Blwyddyn Deintyddiaeth Adferol yn Manceinion o dan Dr. Paul Tipton. Mae’n parhau o ddarparu triniaethau datblygedig y mae deintyddiaeth fodern yn ei gynnig i gleifion.

Thomas Gregg BDS (Bryste) CDC Deintydd: 83449


Graddiodd Tom o Ysgol Ddeintyddol Bryste yn 2004 lle dderbyniodd y wobr ddosbarth ar gyfer Prostheteg (Dannedd Gosod). Roedd bywyd gwledig yn galw ac ymunodd a Deintyddfa Rhuthun i gwblhau ei hyfforddiant galwedigaethol (VT) o dan arweiniad Robert Winstanley. Cyfarfu Tom a’i wraig yn yr ysgol Ddeintyddol a mae'r ddau yn byw ychydig filltiroedd tu allan i Rhuthun gyda'u meibion ifanc.


Arweiniodd diddordeb Tom mewn deintyddiaeth cosmetig a gwelliant gwen i astudiaethau pellach yn Ysgol Ddeintyddol ôl-raddedig UCLAN lle y dyfarnwyd iddo Diploma mewn Deintyddiaeth Cosmetig Adferol yn 2011 ar ôl sawl blwyddyn o astudio a chwblhau portffolio o driniaethau sydd i’w weld yn y practis.


Mae Tom yn parhau i gynnig triniaethau I gyflawni’r wên orau posib i’w gleifion gyda’r lleiafswm o driniaeth ymledol. Mae o wedi cofrestru ar gwrs Msc mewn Orthodonteg ym Mhrifysgol Warwick ac yn gallu darparu amrywiaeth eang o driniaethau orthodontig o sythwyr dannedd sefydlog i gyflinwyr (aligners) anweledig


Mae Tom yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth deintyddol ac yn Gadeirydd / Ysgrifennydd Adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain (undeb llafur deintyddol) ar hyn o bryd. Mae hefyd yn cynrychioli Gogledd Cymru fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru.




Mae’r clinigwyr yn cydweithio â nyrsus deintyddol hyfforddedig sy’n cynnig cefnogaeth yn ystod eich ymweliad i helpu wneud y profiad mor ddi-straen a phosib. Maent yn diweddaru ei hyfforddiant yn reolaidd fel eu bod mewn cysylltiad â’r technegau diweddaraf gan gynnwys rheoli heintiau ac atal traws-heintio.


Mae’r tîm o dderbynyddion cyfeillgar sydd gennym yn sicrhau rhediad esmwyth y practis gan wneud eu gorau i’ch helpu gyda’r apwyntiadau ac unrhyw ymholiadau.

 

Ruthin Dental © 2018                           Website designed and maintained by H G Web Designs